A North Wales couple who married more than 20 years ago but parted after the relationship didn’t work out have found love and tied the knot for a second time with the help of popular S4C programme Priodas Pum Mil.

Carys Wyn Hughes-Jones and Dyfed Henry Jones from Pontrug near Caernarfon got married for the first time in 1995 but the couple parted after four years together and hadn’t seen each other at all, even though Carys lived in Caernarfon and Dyfed in Bangor.

The couple had a son Alun, and it is thanks to Alun that the couple found happiness the second time around.

Carys tells the story: “I think we got married too soon the first time. We were too young and we didn’t really know what we wanted. Unfortunately, the relationship broke down but we’re making up for it now and we are stronger this time around.”

“When Alun turned 18, he wanted to meet up with his father, so we arranged to meet. The first meeting was quite difficult, but we were there for Alun’s sake. Over the weeks and months, we talked a lot and with the support of our families, we decided to start again.”

 

So as they considered getting married for a second time, Carys and Dyfed decided they wanted something completely different and who better to ask for help than Wales’s best-known wedding planners, Emma Walford and Trystan Ellis-Morris and Priodas Pum Mil .

It's second time lucky for Carys Wyn Hughes-Jones and Dyfed Henry Jones in S4C's Priodas Pum Mil
It's second time lucky for Carys Wyn Hughes-Jones and Dyfed Henry Jones in S4C's Priodas Pum Mil

Priodas Pum Mil  - which is now in its third series - helps happy couples plan their wedding for £5,000. But there are conditions. It isn’t the couple who organises the wedding but their family and friends - with the help of Trystan and Emma. The day of the wedding is the first time the bride and groom see what has been organised. So, the couple must expect several surprises on the day.

The husband and wife-to-be are allowed to suggest ideas and, in Carys and Dyfed’s case, they wanted to do something to thank their son Alun for getting them back together.

Alun loves trains, so Carys and Dyfed suggested a wedding on a train platform - was this possible? You’ll have to watch the programme to find out.

 

Carys is full of praise for her family and friends and also the Priodas Pum Mil crew for organising the wedding. “I didn’t have much to do with the organising but my mum Eirlys and sister Eirian would report back saying that they hadn’t laughed so much in their lives.”

Carys’s father had died at a young age and she was aware that the day would be a difficult one for the family and especially for her mother.

Carys said, “It could have been quite a heavy occasion but having Emma, Triystan and the Priodas Pum Mil crew took everybody’s mind off the sadness. It was so different that there wasn’t any time to dwell on things. We had a fantastic day with one surprise after another.”

Priodas Pum Mil, Tuesday, January 29, 8pm, S4C English subtitles

Available on demand on s4c.cymru, BBC iPlayer and other platforms

Diweddglo hapus i Carys a Dyfed

Mae yna ddywediad yn y Gymraeg - hawdd cynnau tân ar hen aelwyd - ac mae hyn yn bendant yn wir i Carys Wyn Hughes-Jones a Dyfed Henry Jones sydd wedi priodi am yr ail waith gyda help rhaglen S4C Priodas Pum Mil.

Priododd Carys a Dyfed o Bont-rug ger Caernarfon am y tro cyntaf yn 1995 ond fe wahanodd y ddau ar ôl rhyw bedair mlynedd a doedd y ddau heb weld ei gilydd o gwbl er gwaetha’r ffaith fod Carys yn byw ger Caernarfon a Dyfed ym Mangor.

Cafodd y cwpl fab, Alun, ac maen nhw’n diolch i Alun eu bod wedi darganfod hapusrwydd am yr eildro.

Dyma Carys yn adrodd yr hanes. “Rwy’n teimlo ein bod ni wedi priodi’n sydyn y tro cyntaf. Mi oeddan ni’n rhy ifanc a heb ddod i nabod ein hunain yn iawn. Chwalodd y berthynas yn anffodus. Ond da ni’n gwneud i fyny amdano fo rŵan a da ni’n gryfach y tro ‘ma.”

“Pan drodd Alun yn 18, roedd o eisiau cwrdd â’i dad, felly drefnom ni i gwrdd. Roedd y cyfarfod cyntaf yn reit anodd ond roedden ni yna er mwyn Alun. Ond wnaethom ni siarad lot dros yr wythnosau a’r misoedd, a gyda chefnogaeth ein teuluoedd, penderfynom ni ddechrau eto.”

Felly wrth iddyn nhw feddwl priodi am yr ail waith penderfynodd Carys a Dyfed eu bod nhw angen rhywbeth gwahanol i’r tro cyntaf a phwy well i ofyn am help na threfnwyr priodasau mwyaf adnabyddus Cymru sef Emma Walford a Trystan Ellis-Morris a rhaglen Priodas Pum Mil.

Carys Wyn Hughes-Jones and Dyfed Henry Jones get married for the second time in S4C's Priodas Pum Mil
Carys Wyn Hughes-Jones and Dyfed Henry Jones get married for the second time in S4C's Priodas Pum Mil

Mae Priodas Pum Mil - sydd nawr ar ei thrydedd gyfres - yn cynnig helpu cyplau hapus i drefnu priodas am £5,000. Ond mae amodau. Nid y cwpl sy’n trefnu’r diwrnod ond eu teulu a’u ffrindiau - gyda help Emma a Trystan. Diwrnod y briodas yw’r tro cyntaf i’r briodferch a’r priodfab weld beth sydd wedi cael eu trefnu ar eu cyfer. Felly, mae’n rhaid i’r cwpl ddisgwyl sawl sypreis fel rhan o’r diwrnod.

Mae hawl i’r darpar bâr priod gynnig syniadau ac yn achos Carys a Dyfed, roedden nhw am wneud rhywbeth i dalu teyrnged i’w mab Alun gan mai diolch iddo ef y daethon nhw nôl at ei gilydd.

Mae Alun yn ffan enfawr o drenau - felly syniad Carys a Dyfed oedd priodi ar blatfform trenau - tybed a fyddai hyn yn bosib - bydd rhaid gwylio i weld beth ddigwyddodd.

Roedd Carys yn llawn canmoliaeth i’w ffrindiau a’i theulu a chriw Priodas Pum Mil am drefnu’r briodas. “Doeddwn i ddim yn ymwneud rhyw lawer hefo’r trefniadau ond roedd fy mam Eirlys a fy chwaer Eirian yn adrodd nôl ac yn dweud eu bod nhw erioed wedi chwerthin cymaint.”

Bu farw tad Carys yn ifanc ac felly roedd hi’n ymwybodol byddai’r diwrnod yn un anodd i’w theulu ac yn enwedig i’w mam Eirlys.

Meddai Carys, “Galla fo wedi bod yn occasion reit drwm ond roedd cael Emma, Trystan a chriw Priodas Pum Mil yna yn tynnu meddwl pawb i ffwrdd o’r tristwch. Roedd o ychydig yn wahanol a doedd dim amser i hel meddyliau. Cawsom ni ddiwrnod ffantastig hefo un sypreis ar ôl y llall.”

Priodas Pum Mil, nos Fawrth, Ionawr 29, S4C isdeitlau Saesneg.

Ar gael ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill.