A few weeks ago, the sports quiz Y Ras crowned Wales’s most knowledgable sports fan - now it’s time to find out who is the celebrity with the best sporting knowledge.
Who could it be? You’ll have to watch Y Ras - Y Selebs to find out.
After two semi-final rounds - the presenter Ifan Jones Evans, the stand up comedian and film guru Gary Slaymaker and the two former international footballers Gwennan Harries and Owain Tudur Jones have reached the final of Y Ras - Y Selebs on S4C, Friday, January 23 at 9.30pm.
And as usual, keeping everyone in order and setting the challenges will be the experienced sport presenter Gareth Roberts.
“They were very competitive - they all knew their stuff. Each individual contestant has to choose a specialist subject for the ‘Arbenigo’ round and it was obvious that they had done their homework,” said Gareth.
“Maybe in the semis they gave the impression that it was the taking part that counted but by the final, they were there to win.”
Gareth Roberts is used to interpreting what is going on on the field to thousands of rugby fans. So what were his impressions of the attitude and performance of the celebs.

“The two footballers - Gwenan and OTJ - had psyched themselves up. Both were determined to beat the other,” said Gareth.
“Ifan Jones Evans needs to listen to the question - he kept trying to answer before hearing the question in full. Gary Slaymaker was the ‘dark horse’ - he really knew his stuff on WWF (World Wrestling Federation).
Despite the keen competition Gareth said that everybody had a lot of fun making the programme.
“It was a little bit different than the series with the sports fans perhaps, but the celebs took the competition just as seriously although they were very friendly with each other in the green room before the quiz.”
So - who is the favourite to win? Here are the competitiors’ ‘stats’ to help you choose. But remember to watch Y Ras -Y Selebs to see if you chose correctly.
IFAN JONES EVANS:
Position : Radio and television presenter, farmer. From Pont-rhyd-y-groes, Ceredigion.
Specialist skill : Plays for his local team in Pontrhydfendigaid and follows Manchester United.
Ifan said : “I’m back again to compete for the main prize - and this time I’m here to win.”
GARY SLAYMAKER:
Position : Film critic, novelist, television presenter, comedian. Originally from Cwmann, near Lampeter, now lives in Cardiff.
Specialist skill : Follows football (supports Cardiff City FC), boxing and wrestling.
Gary said : “My tactic for the semis was to lose and go home but I have somehow or other managed to reach the finals.”
GWENNAN HARRIES:
Position : Originally from Cowbridge, now a physical education teacher in Cardiff.
Specialist skill : 56 international caps for Wales from 2006-12 (18 goals). Played for Cardiff, Bristol and Everton.
Gwennan said : “I am very excited about the last round and happy to be the only woman - so I’m doing this one for the girls!”
OWAIN TUDUR JONES:
Position : From Bangor, Gwynedd. Presenter and commentator on Sgorio.
Specialist skill : Seven International caps for Wales football team (2008-13). Played for Swansea, Norwich, Inverness CT and Hibernian.
Owain said : “I’ve heard that Gwennan is the favourite. Gary Slaymaker - what a performance in the first round. Ifan - no hoper - he hasn’t got a chance.”
Y Ras - Y Selebs, Wednesday, January 23, 9.30pm, S4C English subtitles
Available on demand on s4c.cymru, BBC iPlayer and other platforms
Tro’r selebs i greu argraff gyda’u gwybodaeth am chwaraeon
Ychydig wythnosau yn ôl, fe wnaeth cwis chwaraeon S4C Y Ras goroni cefnogwr chwaraeon mwyaf gwybodus Cymru, ond tybed pwy yw’r seleb gyda’r wybodaeth chwaraeon gorau? Bydd yn rhaid gwylio Y Ras - Y Selebs i weld pwy fydd yn rhwydo’r teitl ar ddechrau 2019.
Ar ôl dwy rownd gynderfynol mae’r cyflwynydd Ifan Jones Evans, y stand yp a gwrw ffilmiau Gary Slaymaker, a’r ddau gyn-beldroediwr rhyngwladol Gwennan Harries ac Owain Tudur Jones wedi cyrraedd ffeinal Y Ras - Y Selebs ar S4C, Nos Wener, Ionawr 23 am 9.30.
Ac, fel arfer, yn cadw trefn ar y cyfan ac yn gosod yr heriau dros bum rownd, fydd y cyflwynydd profiadol Gareth Roberts.
“Ro’n nhw hynod o gystadleuol - oeddan nhw i gyd yn gwybod eu stwff. Roedd rhaid i’r unigolyn ddewis eu testun ar gyfer y rownd Arbenigo ac o’n nhw’n amlwg wedi gwneud eu gwaith cartre’,” meddai Gareth.
“Yn y rowndiau cynderfynol efallai roeddan nhw’n rhoi’r argraff mai ond cymryd rhan oedd yn bwysig ond erbyn y ffeinal ro’n nhw yna i ennill.”
Mae Gareth Roberts wedi hen arfer â chyflwyno, holi pyndits a chwaraewyr a sylwebu am wahanol gampau - ond beth oedd ei farn a’i argraffiadau o agweddau a pherfformiadau’r selebs yn Y Ras ?
Watch: 2017 Quiz Of The Year

“Roedd y ddau gyn-beldroediwr Gwennan ac OTJ yn arbennig o gystadleuol ac yn benderfynol o guro ei gilydd,” meddai Gareth. “Mae angen i Ifan Jones Evans wrando ar y cwestiwn cyflawn …”
“Gary Slaymaker oedd y ‘dark horse’. Mae o’n wir yn gwybod ei stwff am WWF (World Wrestling Federation).”
Er gwaetha’r cystadlu brwd dywedodd Gareth fod pawb wedi cael llawer o sbort ar y rhaglen.
“Roedd hi’n lot o hwyl - bach yn wahanol na’r gyfres gyda’r cyhoedd efallai ond roedd y selebs yn cymryd y gystadleuaeth yr un mor ddifri. Er roeddan nhw gyd yn gyfeillgar iawn yn yr Ystafell Werdd cyn y cwis.”
Felly - pwy yw’r ffefryn i ennill? Dyma ‘stats’ y cystadleuwyr i chi gael dyfalu. Ond cofiwch wylio Y Ras - Y Selebs i weld a ddewisoch chi’n gywir.
IFAN JONES EVANS
Safle: Cyflwynydd radio a theledu, ffermwr. O Bont-rhyd-y-groes, Ceredigion.
Sgiliau penodol: Chwarae dros ei dim pêl-droed lleol ym Mhontrhydfendigaid ac yn dilyn Manchester United.
Meddai Ifan : “Dwi nôl unwaith eto i gystadlu ar gyfer y brif wobr a wi ‘ma i ennill.”
GARY SLAYMAKER
Safle: Beirniad ffilmiau, nofelydd, cyflwynydd teledu, digrifwr. Yn wreiddiol o Gwmann, ger Llanbed, bellach yng Nghaerdydd.
Sgiliau penodol: Dilyn pêl-droed (cefnogi CPD Caerdydd), bocsio a wreslo.
Meddau Gary: “Y dacteg ar gyfer y semis oedd colli a mynd adre ond rwy’ wedi cyrraedd y ffeinal rhyw ffordd neu'i gilydd.”
GWENNAN HARRIES
Safle: Yn wreiddiol o’r Bont-faen. Athrawes addysg gorfforol yng Nghaerdydd.
Sgiliau penodol: 56 cap dros dîm pêl-droed Cymru o 2006-12 (18 gôl) - chwaraeodd dros dimau Caerdydd, Bryste ac Everton.
Meddai Gwennan: “Dwi’n gyffrous iawn am y rownd derfynol - hapus iawn i fod yr unig ferch – felly wi’n neud hyn dros y merched!”
OWAIN TUDUR JONES
Safle: O Fangor, Gwynedd. Cyflwynydd a sylwebydd ar raglen Sgorio.
Sgiliau penodol: Saith cap dros dîm pêl-droed Cymru (2008-13). Wedi chwarae dros Abertawe, Norwich, Inverness CT a Hibernian.
Meddai Owain: “Dwi wedi clywed mai Gwennan ydy’r ffefryn. Gary Slaymaker - am berfformiad yn y rownd gyntaf. Ifan - no hoper - ‘sgano fe ddim gobaith.”
Y Ras - Y Selebs, nos Fercher, Ionawr 23, 9.30, S4C isdeitlau Saesneg.
Ar gael ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill.