Although the focus for sports fans is currently on the football World Cup and Wimbledon, another sport is coming home to Wales this summer.

Forty years to the year since Welsh legend Leighton Rees won the first-ever World Professional Darts Championship in 1978, Oci Oci Oci! starting on Saturday, July 14, is a brand-new darts and quiz show on S4C.

Eleri Siôn and Ifan Jones Evans will front the programme where three teams compete to win a pot of money they hope will be more than £180!

"It's such a fun series," said Ifan, who admits he's not the best darts player ever - nor the best at general knowledge!

Oci Oci Oci! on S4C
Oci Oci Oci! on S4C

"We laughed so much during filming and it was great to work again with Eleri Siôn. I can guarantee there will be plenty of banter as the teams were full of great characters too!"

Teams from Caernarfon Football Club, the Gwesty Tŷ Newydd hotel and pub in Aberdaron and The Wellington pub in Deiniolen will compete in the first programme, with two from each team answering the questions and two throwing the darts. The aim is to reach the final to be in with a chance of winning the main prize.

"There are so many people playing darts in small leagues across Wales," said Ifan. "Quiz evenings are also popular. What better on a Saturday night than to see if you're better than the teams taking part in the series?!

Oci Oci Oci! , Saturday, July 14, 10pm, S4C English subtitles.

Available to watch on-demand at s4c.cymru, iPlayer and other platforms

Mae darts yn dod adre' i Gymru

Er mai Cwpan y Byd Pêl-droed a Wimbledon sy'n mynd â sylw'r rhan fwyaf o ffans chwaraeon ar hyn o bryd, mae camp arall yn dod adre' i Gymru yr haf hwn.

Deugain mlynedd i'r flwyddyn ers i'r Cymro Leighton Rees ennill Pencampwriaeth gyntaf Dartiau Proffesiynol y Byd ym 1978, bydd cwis darts newydd sbon yn dechrau ar S4C nos Sadwrn, 14 Gorffennaf.

Eleri Siôn ac Ifan Jones Evans sy'n cyflwyno Oci Oci Oci! lle mae'r timau'n brwydro i ennill pot o arian maen nhw'n gobeithio fydd yn fwy na £180. Mae Ifan yn edrych ymlaen at y cyffro.

"Mae hi'n gyfres hwyliog iawn," meddai Ifan, sy'n cydnabod nad yw e ymhlith y gorau am daflu dartiau, nac am wybodaeth gyffredinol.

Oci Oci Oci! comes to S4C on Saturday, July 14
Oci Oci Oci! comes to S4C on Saturday, July 14

"Roedd 'na lot o chwerthin wrth i ni ffilmio ac roedd hi mor braf gweithio gydag Eleri Siôn eto. Alla i sicrhau y bydd 'na ddigon o dynnu coes ac mae'n rhaid cyfaddef bod y timau yn dipyn o gesys hefyd."

Timau o Glwb Pêl-droed Caernarfon, Gwesty Tŷ Newydd, Aberdaron a thafarn Y Wellington, Deiniolen fydd yn cystadlu yn y rhaglen gyntaf, gyda dau o bob tîm yn ateb y cwestiynau a dau yn taflu'r dartiau. Y nod yw cyrraedd y rownd derfynol a chael cyfle i gipio'r brif wobr.

"Mae cymaint yn chwarae dartiau mewn cynghreiriau bychain ar draws Cymru," meddai Ifan. "Mae nosweithiau cwis hefyd yn ofnadwy o boblogaidd. Beth well ar nos Sadwrn na gweld os chi'n well na thimau'r gyfres?"

Oci Oci Oci! , nos Sadwrn, Gorffennaf 14, 10pm, S4C isdeitlau Saesneg.

Ar gael ar alw ar s4c.cymru, BBC iPlayer a llwyfannau eraill.